Gwaith y Cyngor Cymuned
Dywed Deddf Llywodraeth Leol 1972 fod pob rhan o Gymru mewn cymdeithas neu gymuned.Yng Nghymru “Cyngor Cymuned” yw’r ymadrodd cyfriethiol a chyfansoddiadol am yr unedau hyn o weinyddiad mewn llywodraeth leol.
Haen isaf llywodraeth leol yw’r Cyngor Cymuned ac sydd agosaf i’r cyhoedd o ran ymateb i ofynion lleol. Mae gan y Cyngor nifer o hawliau a dyletswyddau statudol. Mae gan y Cyngor yr hawl i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio, hawl i wario megis ar llochesi bws, goleuadau ochr ffordd ayyb. Ceir hefyd cyfleoedd i arwain neu gymryd rhan mewn prosiectau sy’n lleol ac o fudd i’r gymuned.
Beth yw strwythur y Cyngor?
Dangosir ar y dudalen nesaf restr o’r Cynghorwyr sydd yn eich cynrychioli. Yn gryno ceir cynrychiolaeth o’r 8 pentref o fewn y gymuned, sef Drefach, Alltyblaca, Brynteg, Cwmsychpant, Rhuddlan, Cwrtnewydd, Llanwenog a Gorsgoch. Mae cyfanswm o 11 Cynghorydd ar y cyfansoddiad, sydd heb fod yn gynrychiolwyr o unrhyw blaid wleidyddol a etholir bob 4 mlynedd. Cyflogir Clerc / Swyddog Ariannol i ddelio â’r holl drefnu cyfarfodydd a llunio agenda i ddelio gyda’r cofnodion a`r materion ariannol a gweinyddol o gynnal allan gwaith y Cyngor.
Sut mae’r Cyngor yn gweithio?
Bydd unrhyw waith gan y Cyngor yn digwydd ar ôl penderfyniadau mewn cyfarfodydd agored. Telir am unrhyw waith gydag arian cyhoeddus a ddaw i’r Cyngor drwy godi praesept sydd yn elfen o Dreth y Cyngor a osodir gan Gyngor Sir Ceredigion.
Beth yw praesept y Cyngor?
Yn 2023/2024 mae praesept y Cyngor yn £15,000. Defnyddir y praesept i ariannu ystod eang o waith, er engraifft i lanhau ac atgyweirio llochesi bws, darparu seddau newydd, atgyweirio’r gof-golofn, cefnogi elusennau lleol. Cyflogir un gweithiwr rhan amser, sef y Clerc, ac mae’r Cyngor yn prynu arbenigwyr o dro i dro i lanhau, peintio, cynnal y llwybrau ac yn y blaen.
All y cyhoedd ddod i’r cyfarfodydd?
Ar bob cyfrif. Mae croeso i chi ddod i’n cyfarfodydd fel gwrandawyr yn unig. Nid oes hawl i’r cyhoedd fod yn rhan o drafodaethau’r Cyngor a ni roddir hawl iddynt leisio barn yn ystod y cyfarfod – fodd bynnag gall amgylchiadau arbennig ganiatáu’r cadeirydd i alw am gyfraniad oddi wrth y cyhoedd ac iddynt wneud datganiad. Byddwn yn cyfarfod unwaith y mis , ac eithrio mis Awst, yn arferol ar nos Fawrth cyntaf o’r mis. Cynhelir y cyfarfodydd yn Neuadd Bentref Drefach am 7.30yh.
Cyfarfodydd Blynyddol
Mae ar y Cyngor rwymedigaeth cyfriethiol trwy Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i gynnal cyfarfod blynyddol ac hynny ym mis Mai. Y Cyngor sydd yn penderfynu ar y dyddiad. Eitem cyntaf ar y rhaglen fydd ethol Cadeirydd y Cyngor Cymuned am y deuddeg mis nesaf a chyflwyno datganiad o dderbyn swydd.
Ethol
I fod yn gymwys i swydd cynghorydd , rhaid i berson fod heb eu anghymwyso dan y gyfraith, yn deiliad Prydeinig, ac wedi cyrraedd 21 oed.
Rhaid i’r ymgeisydd hefyd fod yn:
- etholwr llywodraeth leol
- fod drwy gydol deuddeg mis cyn y dyddiad ethol yn meddiannu fel tenant neu berchen ar ryw dir neu adeiladau yn y cylch neu’n ddinesydd hyn
- fod a’i brif, neu unig le gweithio, yn y deuddeg mis cyn ethol, yn y cylch
- fod yn byw drwy gydol y deuddeg mis hwnnw yn y cylch , neu o fewn tair milltir i’r cylch
Ymholiadau
Cysylltwch â Chlerc y Cyngor os oes unrhyw ymholiad ynglyn â gweithred neu rheolau y Cyngor.