Bwletin Costau Byw Ceredigion – ‘Cymorth i bobl ifanc- addysg ariannol’
Pwnc y bwletin nesaf – ar 27ain o Fedi – bydd ‘Bwyd’. Os hoffech gynnwys rhywbeth yn y bwletin hwn, anfonwch y wybodaeth i ni, yn ddwyieithog os yn bosib, erbyn 25ain o Fedi.
Hawliwch help gyda Grant Hanfodion Ysgol
Os yw eich plentyn eisoes yn cael Cinio Ysgol Am Ddim, efallai y bydd mwy o help ariannol ar gael gyda Grant Hanfodion Ysgol.
Gall hwn helpu gyda hanfodion fel gwisg ysgol ac offer i sicrhau bod eich plentyn yn barod ar gyfer y diwrnod ysgol.
Gallech fod â hawl i help ariannol o hyd at £200 ar gyfer:
- gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
- gweithgareddau ysgol: gallai hyn gynnwys dysgu offeryn cerdd, cit chwaraeon ac offer arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
- hanfodion ystafell ddosbarth: gallai hyn gynnwys beiros, pensiliau a bagiau ysgol.
Peidiwch â cholli allan: Cinio Ysgol Am Ddim
Os yw eich amgylchiadau wedi newid yn ddiweddar, neu os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol, efallai y gallai eich plentyn gael Cinio Ysgol Am Ddim.
Mae Cinio Ysgol Am Ddim yn hybu bwyta’n iach, yn cynyddu’r amrywiaeth o fwyd y gallai eich plentyn ei fwyta, a gall wella ei ymddygiad a’i sgiliau cymdeithasol.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael Cinio Ysgol Am Ddim, gallai eich ysgol dderbyn cyllid ychwanegol.
Clwb Brecwast am Ddim
Nod y cynllun Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd yw darparu brecwast iach i blant cyn dechrau’r diwrnod ysgol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd: gwybodaeth i rieni a gofalwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cynnal eich hun yn ariannol – canllaw i oedolion ifanc 16 i 24 oed
Pan ddechreuwch gynnal eich hun yn ariannol, mae llawer o bethau i feddwl amdanynt. Er gall ymddangos yn gymhleth, yn y canllaw hwn rydym wedi rhestru’r pethau mwyaf pwysig i’w ystyried, a’ch cyfeirio at canllawiau gorau i’ch helpu i fynd ar y trywydd cywir gyda’ch arian.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn daliad wythnosol o £40 i helpu rhai 16-18 oed i helpu gyda chostau addysg bellach.
Gwneir taliadau pob pythefnos cyn belled â’ch bod yn bodloni gofynion presenoldeb eich coleg.
Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, mae’n bosibl bod arian annisgwyl yn aros amdano!
Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo hirdymor sy’n rhydd o dreth – sy’n werth £2,000 ar gyfartaledd. Os na wnaethoch agor y cyfrif, mae’n bosib bod CThEF wedi agor un ar ran eich plentyn.
Os yw’ch plentyn yn ei arddegau yn 16 neu’n 17 oed, gall gymryd cyfrifoldeb dros ei gyfrif ei hun. Unwaith y bydd eich plentyn yn 18 oed, gall gael mynediad at ei gyfrif a thynnu arian allan ohoni.
Os nad oes gennych fanylion ei gyfrif, gall holi CThEF am enw darparwr ei gyfrif drwy lenwi ffurflen ar-lein. Bydd angen ei rif Yswiriant Gwladol arno i wneud hyn, ac mae hwn ar gael yn hawdd ar ap CThEF.
Dewch o hyd i’r cyfrif banc myfyrwyr perffaith
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi adnewyddu ei declyn cymharu cyfrifon banc ar ei safle i ddefnyddwyr, HelpwrArian, i helpu i wneud dewis y cyfrif banc cywir yn symlach. Un grŵp penodol a fydd yn elwa o’r teclyn yw myfyrwyr, gan fod y teclyn yn cynnwys hidlydd a ddyluniwyd yn benodol i gymharu cyfrifon banc myfyrwyr.
Deall eich slip cyflog
Boed yn rhywun sy’n cael ei slip cyflog cyntaf neu wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd, mae dal yn bwysig deall sut y cyfrifir eich cyflog. Mae eich slip cyflog yn cynnwys llawer o wybodaeth bwysig, yn cynnwys eich rhif cyflogres, eich cyflog gros a net, ac fel arfer eich cod treth. Mae’n bwysig eich bod yn deall eich slip cyflog a sut i wneud yn siŵr eich bod yn cael y swm cywir.
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Mae gan bron pob gweithiwr yn y DU hawl i gael o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol os ydych yn 21 oed neu’n hŷn. Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cael y gyfradd gywir, ac yn gwybod beth i’w wneud os nad ydych yn meddwl eich bod.
Arian myfyrwyr a graddedigion
Mae arian myfyrwyr yn fwy nag ond eich benthyciad myfyriwr.
Rydym wedi edrych ar gardiau credyd, cyfrifon banc ar gyfer pryd rydych yn astudio a phan fyddwch chi’n graddio, a’r ffyrdd gorau o ddelio ag unrhyw ddyledion y gallech fod wedi’u cronni.
Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch
Os byddwch chi’n mynd ymlaen i ddilyn addysg bellach ac uwch a bod angen cymorth ariannol arnoch, mae rhai opsiynau ar gael. Dyma’r grantiau, benthyciadau a’r bwrsarïau sydd ar gael yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a ble i fynd i gael mwy o wybodaeth.
YGam
Mae elusen YGam (dolen i wefan Saesneg yn unig) yn cynnig cymorth ac addysg i bobl ifanc sydd â phroblemau gamblo a hapchwarae. Ar ei wefan mae yna Hwb i fyfyrwyr (prifysgol yn bennaf) lle maent yn gallu derbyn mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael iddynt petai angen cefnogaeth ac addysg am gamblo.
‘Fy Ngherdyn Teithio’
Mae ‘Fy Ngherdyn Teithio’ yn cynnig i bobl ifanc 16 – 21 oed, disgownt o tua 30% ar deithiau bws yng Nghymru.
Mae’r holl gwmnïau bysiau sy’n cymryd rhan yn y cynllun ar gael yna: https://fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/mwy-am-dy-gerdyn/
Urddas Mislif yng Nghymunedau Ceredigion
Dyma gyfeiriadur o grwpiau, sefydliadau cymunedol a lleoliadau eraill sy’n cynnig cynhyrchion mislif am ddim i’r rhai sydd eu hangen. Mae amrywiaeth o gynhyrchion ar gael ym mhob lleoliad gan gynnwys opsiynau eco-gyfeillgar, ddim yn cynnwys plastig neu’n ail-ddefnyddiadwy. Cymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch, ni ofynnir unrhyw gwestiynau.
Os ydych yn cysylltu ar ran grŵp neu fudiad cymunedol sy’n dymuno cynnig cynnyrch mislif am ddim i bobl yn eich cymuned leol, cysylltwch â urddasmislif@ceredigion.gov.uk.
Cymorth am ddim gyda sgiliau rhifedd
Os rydych chi, neu rywun rydych chi’n cymhorthi, yn gweld hi’n anodd delio gydag arian, mae Dysgu Bro Ceredigion yn cynnig cyrsiau rhifedd am ddim er mwyn cynyddu eich hyder i gyfrifo biliau a chyllid y cartref. Mae cyrsiau ar gael dros Geredigion, ar-lein neu mewn person, i unrhyw un dros 19 mlwydd oed. Cysylltwch â Dysgu Bro ar 01970 633 040 neu e-bostiwch admin@dysgubro.org.uk am fwy o fanylion.
Chwilio am Ofal Plant?
Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am help i ddewis a dod o hyd i ofal plant Gofal Plant a Chwarae – Cyngor Sir Ceredigion
Neu ewch i’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Gwybodaeth Gofal Plant Cymru – Child Care Information Wales
Cefnogaeth gofal plant i blant 2 oed
Un o fentrau Llywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg. Mae’n darparu cymorth a chyfleoedd i deuluoedd â phlant o dan bedair oed.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cymorth gofal plant ar gyfer eich plentyn 2 oed gyda’n gwiriwr cod post: Dechrau’n Deg – Cyngor Sir Ceredigion
Cefnogaeth gofal plant i blant 3-4 oed
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr yr wythnos o Ddarpariaeth Dysgu Sylfaen (addysg gynnar) a gofal plant wedi ei ariannu ar gyfer rhieni cymwys sydd mewn gwaith ag sydd â phlant 3 a 4 oed, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.
Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth Cynnig Gofal Plant i Gymru – Cyngor Sir Ceredigion
Help gyda chostau Gofal Plant
Mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd hawl i gael rhywfaint o gymorth ariannol tuag at gost gofal plant. I gymharu’r gwahanol ddewisiadau a darganfod a ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau Gofal Plant ewch i Dewisiadau Gofal Plant.
Cofiwch ddewis Cymru gan fod cymorth yn wahanol i gymorth gofal plant Lloegr.
CYNLLUN TAI CYMUNEDOL CEREDIGION
Mae Cynllun Tai Cymunedol newydd wedi’i lansio’n ddiweddar gan Gyngor Sir Ceredigion. Un o brif flaenoriaethau’r Awdurdod Lleol yw tai fforddiadwy ac mae’r Cyngor yn defnyddio adnoddau sylweddol i greu a rheoli tai fforddiadwy. Bwriad y Cynllun Tai Cymunedol yw cefnogi pobl i gael tai fforddiadwy yn eu cymunedau lleol drwy greu llwybrau tuag at fod yn berchen ar gartrefi. Y ffordd fwyaf cyffredin o wneud hyn yw drwy gynnyrch rhannu ecwiti. Mae prynwyr posibl yn cael morgais am gyfran o 55-75% o’r cartref, Mae’r Cyngor yn dal cyfran, Mae’r Cyngor yn cynnig y cyfle i’r perchnogion gynyddu i gyfran perchentyaeth uwch o’r eiddo dros amser wrth i’w hamgylchiadau newid.
Er mwyn sicrhau’r cymorth mwyaf posibl i drigolion y sir: Ni fydd y ganran rhannu ecwiti y bydd y Cyngor yn ei chyfrannu at dai y gellir byw ynddynt yn fwy nag 20% Hefyd, ni fydd y ganran rhannu ecwiti y bydd y Cyngor yn ei chyfrannu at eiddo gwag cofrestredig yn fwy na 40%. Mae hyn yn adlewyrchu’r costau uwch sy’n gysylltiedig â sicrhau bod modd defnyddio tai gwag fel cartrefi unwaith eto Hefyd, rhyw ben yn y dyfodol, gall y preswylwyr fynd ati i gynyddu cyfran eu perchentyaeth.
Mae cap o £300,000 ar brisiau tai wedi’i osod ar gyfer 2023/24 a chaiff hyn ei adolygu’n flynyddol. Rheolir y cynllun ar sail y cyntaf i’r felin ac mae’n bwysig nodi nad yw cymryd rhan yn y cynllun hwn yn atal deiliaid tai rhag derbyn cymorth arall megis y grantiau sydd ar gael ar gyfer eiddo gwag ac ati. Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus ad-dalu swm yr arian a fenthyciwyd NEU ganran cyfatebol o werth yr eiddo, pa bynnag un sydd uchaf, ac ni all benthyciad y Cyngor fod am gyfnod sy’n hirach na chyfnod y morgais sy’n gysylltiedig â hynny. Bydd modd cynyddu cyfran y berchentyaeth ar adegau penodol ym mlynyddoedd 5, 10, 15, 20 a 25.
Hefyd, bydd gan yr ymgeiswyr hyblygrwydd i gynyddu’r gyfran cyn yr adegau hyn os ydynt mewn sefyllfa ariannol i wneud hynny. Dim ond mewn cynyddrannau o 5% y bydd hawl gan ymgeiswyr i ad-dalu eu hecwiti. Ar yr adegau penodol hyn, os oes cais i brynu ecwiti oddi wrth yr Awdurdod Lleol, bydd gofyniad am brisio’r eiddo er mwyn canfod gwerth yr eiddo ar y farchnad. Unwaith y cytunir ar hyn, bydd gofyn i’r ymgeisydd brynu canran yr ecwiti yn seiliedig ar werth yr eiddo ar y farchnad ar hyn o bryd neu ganran y swm a fenthyciwyd, pa bynnag un sydd fwyaf, er mwyn diogelu buddiannau’r Awdurdod Lleol.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid bodloni’r meini prawf canlynol: mae’n rhaid i’r eiddo fod wedi’i leoli yn ardal awdurdod lleol Ceredigion mae’n rhaid bod gan yr ymgeiswyr flaendal o 5% fan lleiaf o’r pris prynu llawn mae’n rhaid i’r ymgeisydd beidio â bod yn berchen ar unrhyw eiddo arall mae’n ofynnol bod yr ymgeiswyr wedi byw yng Ngheredigion am 5 mlynedd rywbryd yn ystod eu bywyd (neu mae’n rhaid cydymffurfio â’r eithriadau penodol ar gyfer Gweithiwr Allweddol / Gofalwr). ni ddylai’r ymgeiswyr fod yn gallu fforddio morgais am 10% yn fwy na’r prisiad y cytunwyd arno ar gyfer yr eiddo, ar ôl tynnu i ffwrdd cyfraniad arfaethedig y Cyngor.
Am fwy o wybodaeth am y cynllun a’r ffordd y gallwch chi wneud cais, ewch i: Y Cynllun Tai Cymunedol – Cyngor Sir Ceredigion. Gallwch chi hefyd ffonio’r Tîm Polisi Cynllunio ar 01545 570881 neu anfon e-bost i ldp@ceredigion.gov.uk. Cofion, Sarah
Facebook – www.facebook.com/CSCeredigion
Twitter – www.twitter.com/csceredigion
www.ceredigion.gov.uk
Cyfleoedd cerdded, beicio a marchogaeth yng Ngheredigion
Gweler isod adnoddau gwe i’ch helpu chi, eich ffrindiau, teulu neu gwesteion i fynd o gwmpas i archwilio clogwyni esgyn hyfryd Ceredigion, bryniau tonnog, dyffrynnoedd ffrwythlon a chymoedd coediog yn ddiogel.
• Tudalen Cerdded a Theithio
Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i gyfleoedd cerdded a marchogaeth ar hawliau tramwy cyhoeddus ledled y sir
• Creu eich teithiau eich hunan
Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i’r map rhyngweithiol sy’n nodi pa lwybrau sydd ar agor ac ar gael yn y sir, gan adael i chi gynllunio’ch teithiau a’ch anturiaethau eich hun
- Mae 2023 yn nodi 15 mlynedd o Lwybr Arfordir Ceredigion. Isod mae gyfres o deithiau cerdded cylchol – pob un yn cymryd rhan o Lwybr Arfordir hyfryd ond yn dychwelyd i’ch man cychwyn trwy lwybrau mewndirol.
Dathlu 15 mlynedd o Llwybr – Cyngor Sir Ceredigion
· Dweud eich dweud
Holiadur llwybrau Cyhoeddus (office.com)
Cadwch Ceredigion yn Ddiogel
Gellir gweld yr holl wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru
https://llyw.cymru/coronafeirws?_ga=2.81765335.1384926117.1608493693-1809162171.1581414289
Caledi, Cynhesrwydd a Thanwydd
Os ydych chi’n gweld hi’n anodd gyda costau cynyddol – cysylltwch a CAVO yn Llanbed am gymorth a chyngor ar 01570 423 232.
Cylchlythyr Newid Hinsawdd
Cylchlythyr Newid Hinsawdd Mawrth 2021 – Cymraeg PDF
Cronfa Uwchraddio Band Eang Ceredigion
Os oes unrhyw un ohonoch yn ansicr ynghylch y Cynllun Cronfa Uwchraddio Band Eang a beth fydd hyn yn ei olygu yna efallai yr hoffech ymuno â chyfarfod heno neu nos yfory lle bydd un o’r 3 cyflenwr sydd wedi dangos diddordeb mewn cyflwyno’r Cynllun yn rhoi cyflwyniad .
Mae yna ffordd bell i fynd eto cyn y bydd yn ofynnol i unrhyw un wneud unrhyw ymrwymiad y naill ffordd neu’r llall a gallwch dynnu’ch diddordeb a’ch cefnogaeth yn ôl ar unrhyw adeg os ydych chi’n anhapus ag unrhyw beth sy’n cael ei gynnig.
Mae Cyngor Cymuned Llanwenog yn rhannu’r wybodaeth hon, mae yna gydlynwyr yn y Plwyf a all eich helpu ymhellach:
- Hazel Thomas
- Gordon Lonsdale
- Steve Greenfield
- Glenn Hamilton
Gwobrau Un Llais Cymru 2019
Derbyniodd Cyngor Cymuned Llanwenog wobr ‘Cymeradwy’ am y wefan hon sy’n darparu gwybodaeth am y Cyngor Cymuned, agenda a munudau ynghyd a digwyddiadau ehangach sy’n digwydd yn yr ardal.
Taith Gerdded 2019
Daeth tyrfa o dros 60 o bobl i gerdded llwybrau cyhoeddus Plwyf Llanwenog eleni, ac mi aethpwyd oamgylch ardal Drefach ac Alltyblaca a heibio hen blasdy Llanfechan. Codwyd dros £760.00 tuag at Pwyllgor Apel Llanwenog a Llanwnnen, Eisteddfod Ceredigion 2020.
Rhoddion gan Gyngor Cymuned Llanwenog
Yn flynyddol mae Cyngor Cymuned Llanwenog yn rhoi rhoddion ariannol, ar gais, i fudiadau ac elusennau. Dyma rhai o’r mudiadau ac elusennau cafodd rodd ariannol yn ystod 2018-2019:
- Bobath
- Elin Haf Jones, Rali Ewropeaidd CFFI
- Pobl Cwrtnewydd People – Potiau Blodau
- Walk for Life – Adran A&E Glangwili ‘Mobile Sphygmomanometers’
- Eisteddfod Capel y Groes
- Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbedr Pont Steffan
- Eisteddfod Ceredigion 2020
- Tenovus
- Treialon Cwn Defaid Ceredigion
- CFFI Ceredigion
- Ambwilans Awyr Cymru
- Urdd Gobaith Cymru
- Gofal Mewn Galar
- Noah’s Ark
Sul y Cofio 2018
Daeth tyrfa luosog ynghyd i gofgolfon Drefach i gofio am filwyr y Plwyf a aberthodd eu bywydau drosom yn y Rhyfel Mawr a’r Ail Ryfel Byd, roedd y seremoni yng nghofal y Parchedig Bill Fillery.
Trefnwyd seremoni i Gofio’r Canmlwyddiant gan y Cyngor Cymuned yn Eglwys y Plwyf am 2yp, lle roedd yr Eglwys yn llawn. Cafwyd eitemau gan Ysgol Dyffryn Cledlyn, CFFI Llanwenog, Cynghorwyr Cymuned, Tydfor Jenkins a’r Canon Phillip Wyn Davies. Diolch i bawb a ddaeth i gofio.
Am 7yh cynnwyd coelcerth ar fanc Blaenrallt Ddu fel rhan o brosiect ‘Beacon of Hope’ i orffen y diwrnod o gofio.
Taith y Plwyf 2018
Diolch i bawb a ddaeth allan i gefnogi’r daith unwaith eto eleni. Daeth dros hanner cant ynghyd i gerdded y daith o 5 milltir a chafwyd lluniaeth yng Nghapel y Cwm hanner ffordd. Casglwyd £550 tuag at uned ddamweiniau ac achosion brys Glangwili, a byddwn yn prynu offer penodol gyda’r arian.
Gwobr Un Llais Cymru
Llongyfarchiadau i Gyngor Cymuned Llanwenog ar dderbyn tystysgrif ‘Canmoliaeth Uchel’ yng ngwobrau Un Llais Cymru sef y sefydliad sy’n cynrychioli cynghorau thref a chymuned yng Nghymru. Derbyniwyd y wobr yng nghategori ‘Menter Ymgysylltu Cymunedol Orau’ ac mi roedd y gystadleuaeth yn un gref gyda Llanwenog yn cystadlu yn erbyn Cynghorau Thref mawr megis Caerdydd a Llanelli.
Diolch i’r Cyng Hazel Thomas a’r Cyng Alwena Williams am gynrychioli’r Cyngor Cymuned yn y gynhadledd a rhoi cyflwyniad ar ein rhan. Derbyniwyd y wobr am y gwaith sydd wedi cael eu wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn y gymuned megis ail-wampio’r Ciosgs Coch gyda lle cadw llyfrau a jig so, Diffibriliwr a bwrdd arddangos. Cynnal digwyddiad Taith Dros Fywyd yn flynyddol gan wneud taith addysgiadol yn adrodd hanes y Plwyf a defnyddio’r llwybrau cyhoeddus ynghyd a chodi arian at elusennau. Cymryd drosodd fod yn ymddiriedolwyr y gofgolofn yn Nrefach, cynnal gwasanaeth Sul y Cofio a gwneud yn siwr ei fod yn medru cael ei symud er mwyn creu mynedfa i Ysgol Dyffryn Cledlyn. Mae les cae chwarae Cae Sarn wedi cael ei gymryd drosodd gan y Cyngor Cymuned er mwyn rhoi siawns i’r pentref gynnal y maes chwarae a darparu parc i blant y pentref a’r ardal. Cynnal digwyddiadau hyfforddi defnyddio diffibriliwyr, noson hanes Plwyf Llanwenog gan Simon Evans a Noson agored gan Gomisiynydd yr Heddlu. Yn y dyfodol mi fydd y Cyngor Cymuned yn cynnal noson agored ar gyfer y gymuned gyfan, siawns i ddod i adnabod y Cynghorwyr, rhannu syniadau a phryderon.
Ciosg Drefach
Mae silffoedd wedi eu gosod yn y Ciosg at gyfer dal llyfrau ‘Book Swap’. Croeso ichi ei ddefnyddio. Mae yno hefyd hysbysfwrdd a Diffibriliwr oes oes ei angen arnoch unrhywbryd. Ewch i’w weld!
Ciosg Coch Cwrtnewydd
Diolch i weledigaeth pentrefwyr Cwrtnewydd mi fydd Ciosg Cwrtnewydd yn cael ei drawsnewid i fod yn hwb cymunedol a’i ddefnyddio ar gyfer lle i fynd a menthyg llyfrau darllen, cartref i un o’r diffibriliwr ac hysbysfwrdd. Am fwy o wybodaeth neu os ydych am roi help llaw cysylltwch a Debby Champan Bryngranod neu Graham Watson Yr Aber. Mae Cadeirydd y Cyngor Cymuned wedi glanhau’r Ciosgs ac mae’r Cyng Euros Davies wedi gosod hysbysfwrdd yn y rhan fwyaf ohonynt. Cofiwch eu defnyddio i hysbysebu eich digwyddiadau.
Diffibrilwyr
Mae Pwyllgor Sioe Cwmsychpant yn garedig iawn wedi codi arian i brynu diffibrilwyr ar gyfer y gymuned ac wedi gofyn caniatad y Cyngor Cymuned i’w gosod yn y safleoedd canlynol:
– Ciosg Cwmsychpant
-Ciosg Cwrtnewydd
– Ciosg Drefach
Edrychwch mas amdanynt, ewch i gael pip ar y cyfarwyddiadau a gobeitho y bydd cyfle cyn hir i gael noson hyforddiant ar sut i’w defnyddio mewn argyfwng.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae’r Ddeddf hon yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Bydd y ddeddf yn helpu’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf i feddwl yn y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd, ceisio atal problemau a dilyn dull gweithredu cyson.
Bydd y ddeddf newydd hon yn golygu, am y tro cyntaf, bod yn rhaid i’r cyrff cyhoeddus sy’n cael eu rhestru yn y Ddeddf wneud yr hyn y maent yn ei gyflawni mewn dull cynaliadwy.
Mae angen i gyrff cyhoeddus wneud yn siŵr eu bod yn ystyried yr effaith a gaiff eu penderfyniadau ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.
Bydd disgwyl iddynt:
- gydweithio yn well,
- cynnwys pobl, gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau,
- edrych ar bethau yn yr hirdymor yn ogystal â chanolbwyntio ar y sefyllfa ar hyn o bryd
- cymryd camau i geisio rhwystro problemau rhag gwaethygu – neu hyd yn oed eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Mae’r Ddeddf yn sefydlu Comisiynydd statudol ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd â’r rôl o weithredu fel gwarchodwyr buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, ac sy’n helpu’r cyrff cyhoeddus sy’n cael eu rhestru yn y Ddeddf i weithio tuag at gyflawni’r amcanion llesiant.
http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/?skip=1&lang=cy
Taith Dros Fywyd 2016
Cerddodd 55 o blwyfolion Llanwenog y Daith Gerdded Noddedig er budd Sefydliad Aren Cymru eleni a chodwyd dros £750.00 o bunnoedd. Llunwyd map a nodiadau i gyd-fynd a’r llwybr cerdded a dysgwyd llawer, mae’r ddwy ddogfen wedi eu atodi isod. Diolch i bawb fu ynghlwm gyda’r trefnu ac a fu’n paratoi bwyd. Ymlaen i’r bedwaredd daith y flwyddyn nesaf…
NEUADD YR HAFOD, GORSGOCH
Mae’r Neuadd newydd wedi ei chwblhau ac yn edrych yn wych tu fewn a thu allan. Os ydych am logi’r neuadd cysylltwch gyda’r pwyllgor ar facebook neu drwy ebost ar neuaddyrhafod@gmail.com
CEISIADAU AM ARIAN I’R CYNGOR CYMUNED
Mae pwerau S137 deddf llywodraeth leol 1972 yn galluogi’r Cyngor Cymuned i gefnogi etholwr yn ariannol lle bod yr arian yn mynd tuag at ddefnydd sydd yn eu barn nhw o ddiddordeb ac a fydd yn dod a budd uniongyrchol i’r ardal hon neu lle fydd unrhyw ran ohono yn dod â budd i’w preswylwyr. Felly os ydych chi’n elusen neu os ydych yn cynrychioli’r Plwyf hon, fe ystyrir ceisiadau drwy lythyr gan y Cyngor Cymuned yn fisol, mi ddylsech ddanfon eich cais at y Clerc, Blaenderi, 13 Penbryn, Llanbedr Pont Steffan. SA49 7EU. Mi fydd pob cais yn cael ei benderfynu yn unigol ac nid oes sicrwydd y bydd eich cais yn llwyddiannus.
CYMDOGION CYNNES
Dyma ddogfen defnyddiol ar gyfer pobl bregus a henoed yr ardal sy’n amlinellu ffynhonellau pwysig o wybodaeth iddynt, tynnwch sylw pobl y plwyf i’r ddogfen hon os gwelwch yn dda:
CYMDOGION CYNNES CYM Gorffenaf 2015
TAITH DROS FYWYD
Ar fore ddydd Sul, Ebrill 26ain casglodd hanner cant o bentrefwyr Plwyf Llanwenog a thu hwnt yn Nhafarn Cefn-Hafod, Gorsgoch i ymuno ar Daith Dros Fywyd Cyngor Cymuned Llanwenog. Ar y diwrnod hwn mae teithiau yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad i godi arian i elusen Sefydliad Aren Cymru, dyma’r ail waith yn olynol i’r Cyngor Cymuned drefnu taith gerdded i’r elusen. Trefnwyd ein taith ni gan Gadeirydd y Cyngor Cymuned, Geraint Hatcher. Aeth y dyrfa, pawb ar liwt eu hunain, (a rhai yn cael eu tynnu gan ambell i gi), heibio hen ysgol gynradd Gorsgoch, i fewn i Blwyf Llanarth, ar hyd llwybr cyhoeddus yn dilyn yr afon Grannell a chael cyfle i dynnu anal wrth i Dai Penlan-Noeth ddangos safle hen Gastell Penlan ini, hen gastell tomen a beili tybiwn ni sydd yn cael ei ddiogelu fel ardal o gadwraeth gan sefydliad CADW. Ymlaen wedyn i weld man claddu gŵr a gwraig, adroddwyd yr hanes gan Byron Hafod y Gors, dywedodd bod y pâr wedi cwmpo mas gyda’r ddeioniaeth ac felly prynwyd y tir hwn ganddynt oddeutu 1905 er mwyn cael man i’w claddu. Roedd siap y bedd i’w weld yn eglur hyd heddiw. Dringo eto wedyn drwy glos fferm Penlan-Noeth ac i fynu at Gastell Moeddyn a chael 5 munud fach i edmygu’r olygfa godidog o’r man hwn. Roedd hi’n ddiwrnod clir a dim cwmwl yn yr awyr wrth ini edrych draw ar fynyddoedd Llanllwni a Phencarreg ac yna thros bentref Cribyn ac ymhellach at Ddyffryn Aeron. Dywedodd un gŵr wrth sefyll yn geg agored ar safle’r hen gastell, “dyma baradwys”, a phwy all fod wedi dadlau gydag ef ar y foment honno. Troi am nôl wedyn ar hyd y ffordd fawr nôl i dafarn Cefn-Hafod am gawl cartref Eiddwen a llymaid llon i dorri syched gyda phawb wedi cwblhau’r 5 milltir! Derbyniwyd £820.00 o arian nawdd ac mae’r arian wedi cael ei drosglwyddo i elusen Sefydliad Aren Cymru. Diolch i’r Cyng Geraint Hatcher am drefnu, i’r tywyswyr ar hyd y daith, i’r gyrrwyr a ddarparodd lifft i un neu ddau a dŵr ini gyd, ac i Dafarn Cefn-Hafod am y croeso a’r lluniaeth. Roedd hi’n fore bendigedig o gloncan a dysgu am ein milltir sgwar, yn aml yr ydym yn anymwybodol o’r cyfoeth o hanes sydd wrth stepen ein drws.
Cynghorydd Newydd
2014 – Croeso i’n Cynghorydd Cymuned newydd Mrs Helen Howells, Ty Cam. Croeso cynnes a llongyfarchiadau i Mrs Helen Howells, Ty Cam ar gael ei hethol ar Gyngor Cymuned Llanwenog. Mae Helen wedi ymgatrefu yn Nhy Cam ers sawl blwyddyn bellach ac yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru o ddydd i ddydd. Mae’n gyn-aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog a Cheredigion. Mae’n briod a Peter a chanddynt mab o’r enw Steffan Hedd a thrwy hyn mae’n weithgar gyda’r Cylch Meithrin a’r Cylch Ti a Fi yn y Plwyf. Edrychwn ymlaen yn fawr at gael Helen yn rhan o’r tim. Llongyfarchiadau hefyd i’r Cyng Geraint Davies ar gael ei ethol yn Is-Gadeirydd y Cyngor Cymuned.
Canmlwyddiant Rhyfel Byd Cyntaf
Cynhaliwyd gwasanaeth coffa canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ar ddydd Sul y 10fed o Awst 2014 yn Eglwys Plwyf Llanwenog gyda Te Cymreig i ddilyn.
Roedd yn ddiwrnod i’w gofio gyda enwadau a sefydliadau’r plwyf yn uno i gofio’r milwyr a fu farw a’r rhai a frwydrodd yn ddewr dros ein gwlad.
Casglwyd £255.00 ar gyfe elusen Help the Heroes.
Cofgolofn Drefach
Newyddion da o lawenydd mawr! Mae’r gofgolfon bellach wedi ei lanhau ac yn edrych yn hynod o smart a ffres!